Marine Environmental Monitoring (MEM)
Rydym yn gwneud gwaith ar gyfer Llywodraeth Cymru yn ogystal â bod yn asiantaeth bartner yn y Rhaglen Ymchwilio i Strwndiadau Morfilod (CSIP).
Rydym yn helpu i gydlynu’r gwaith o ymchwilio i bob morfil, dolffin a llamhidydd (a elwir gyda’i gilydd yn forfilod), crwban môr a siarc sy’n strwndio o amgylch arfordir Cymru. Rydym yn cofnodi data ar bob strwndiad.
Rydym hefyd yn dogfennu pob strwndiad unigol, ac yn casglu cyfran ohonynt ar gyfer archwiliad post-mortem er mwyn ein galluogi i ganfod achos marwolaeth. Mae’r data a gasglwn yn helpu i roi darlun cywir o ba rywogaethau a geir yn nyfroedd y DU ac yn dangos dosbarthiad lleol a thymhorol.
Mae strwndiadau sy’n cael archwiliad post-mortem fel rhan o’r CSIP yn rhoi gwybodaeth werthfawr inni am achosion marwolaeth, afiechyd, llygryddion, patrymau atgenhedlu, diet a hefyd arwyddion defnyddiol o iechyd cyffredinol y poblogaethau sy’n byw yn y moroedd o amgylch ein harfordiroedd.
Rydym hefyd yn cefnogi sefydliadau proffesiynol ac elusennol eraill fel yr RSPCA, yr RNLI, BDMLR, Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, drwy ddarparu cymorth technegol a logistegol.
Ynghyd â’n tîm proffesiynol, mae gennym dîm o wirfoddolwyr o amgylch arfordir Cymru sy’n cefnogi ein gwaith drwy roi gwybod am unrhyw strwndiadau a helpu i gasglu data. Mae hyn yn ein galluogi i ymateb yn gynt i unrhyw strwndiadau yr adroddir amdanynt.
We coordinate the investigation of all whales, dophins, turtles and sharks along the Welsh coast.
Mat Westfield
COORDINATOR
















