Marine Environmental Monitoring — Wales
Os dewch o hyd i forfil, dolffin neu forfilod (morfilod a dolffiniaid) neu famal morol sydd wedi strwndio…
neu British Divers Marine Life Rescue (BDMLR) ar: 01825 765546.
neu RSPCA: 0300 1234 999
Ynglŷn â CSIP
Rydym yn cydlynu’r gwaith o ymchwilio i bob morfil, dolffin a llamhidydd (a elwir gyda’i gilydd yn forfilod), crwban môr a siarc sy’n strwndio o amgylch arfordir Cymru a Lloegr. Yn ogystal â dogfennu pob strwndiad unigol, rydym hefyd yn casglu cyfran ohonynt ar gyfer archwiliad post-mortem er mwyn ein galluogi i ganfod achos marwolaeth. Mae’r data a’r samplau a gesglir yn ystod ein hymchwil hefyd wedi hwyluso nifer fawr o gydweithrediadau rhyngwladol, sydd wedi mynd i’r afael ag ystod eang o gwestiynau gwyddonol.
Pam Adrodd?
Diolch i’r data a gasglwyd gennym, rydym wedi gallu profi y gall morfilod sy’n plymio’n ddwfn ddioddef o’r bend oherwydd dod i’r wyneb yn rhy gyflym pan fydd sŵn uchel yn eu dychryn.
Mae’r adroddiadau a dderbyniwn yn helpu i greu gwell dealltwriaeth o’r rhywogaethau sydd gennym yn y dyfroedd o amgylch arfordir Cymru.
Mae’r data a gasglwn yn cynorthwyo ymchwil ledled y byd, gan greu amgylchedd mwy diogel ar gyfer bywyd morol o bob math.
Oherwydd y dystiolaeth rydym wedi’i chasglu, rydym wedi gallu newid arferion pysgota’r diwydiant pysgota masnachol.
Mae’r morfilod a gasglwn nid yn unig yn helpu gydag ymchwil wyddonol, ond maent hefyd yn helpu i hyfforddi’r genhedlaeth nesaf o filfeddygon a biolegwyr morol.
Mae’r ymchwil a wnawn yn helpu i lywio polisi’r dyfodol ynghylch diogelu bywyd morol a’r amgylchedd ehangach.






















