Y crwban olewydd ridley yw’r ail grwban môr lleiaf a geir yn y byd. Mae’r crwban olewydd ridley i’w gael mewn dyfroedd cynnes a throfannol, yn bennaf yng Nghefnforoedd y Môr Tawel a’r India, ond hefyd yn nyfroedd cynnes Cefnfor yr Iwerydd ac ni all oroesi yn ein dyfroedd oerach. Mae’r crwban olewydd ridley hwn yn perthyn i’r crwban môr Kemp’s ridley ac maent yn fwyaf adnabyddus am eu nythiadau torfol cydamserol unigryw o’r enw arribadas, lle mae miloedd o fenywod yn dod at ei gilydd ar yr un traeth i ddodwy wyau. Maent yn tyfu hyd at tua 60cm o hyd. Mae’r crwban olewydd ridley wedi’i ddosbarthu fel ‘Agored i niwed’ ar ‘Rhestr Goch Rhywogaethau dan Fygythiad yr IUCN’.



