Mae amrediad y crwban môr gwyrdd yn ymestyn ar draws moroedd trofannol ac isdrofannol ledled y byd, gyda dau boblogaeth wahanol yng Nghefnforoedd yr Iwerydd a’r Môr Tawel, ond mae hefyd i’w gael yng Nghefnfor India. Fel gyda’r crwbanod môr cregyn caled eraill, ni all oroesi yn ein moroedd ni. Dim ond ar laswellt y môr y mae’r crwban gwyrdd yn bwydo a chafodd ei enw o’r braster sydd fel arfer yn wyrdd a geir o dan ei gragen, oherwydd ei ddeiet. Gallant dyfu i dros 1m o hyd ond fel gyda’r rhywogaethau eraill, fel arfer y rhai ifanc a welwn yn ein dyfroedd ydynt. Fel crwbanod môr eraill, mae crwbanod môr gwyrdd yn mudo pellteroedd maith rhwng mannau bwydo a thraethau deor. Mae llawer o ynysoedd ledled y byd yn cael eu hadnabod fel Ynys y Crwban oherwydd crwbanod môr gwyrdd yn nythu ar eu traethau. Mae’r crwban gwyrdd wedi’i ddosbarthu fel ‘Lleiaf o Bryder’ ar ‘Rhestr Goch IUCN o Rywogaethau Dan Fygythiad’.



