Gwelir dolffiniaid Risso yn bennaf o amgylch arfordir Ynys Môn ond maent wedi cael eu gweld i fyny ac i lawr Bae Aberteifi. Maent yn tyfu i tua 3.5m ac mae ganddynt olwg nodedig o wên. Mae dolffiniaid Risso yn dechrau’n llwyd/brown olewydd ond wrth iddynt fynd yn hŷn byddant yn troi’n wynnach o ran golwg.



