Crwban môr prinnaf a lleiaf yw crwban môr ridley Kemp, a dyma’r rhywogaeth fwyaf mewn perygl yn y byd o grwban môr. Er gwaethaf hyn, dyma’r drydedd fwyaf cyffredin i gael ei hadrodd i ni, gyda nifer yr adroddiadau’n cynyddu. Maent yn tyfu i tua 60cm pan fyddant wedi tyfu’n llawn, ond mae’r rhai sy’n ymddangos ar ein glannau’n tueddu i fod yn rhai ifanc tua’r un maint â’ch llaw. Mae crwban môr y kemp yn bennaf yn meddiannu cynefin o amgylch Gwlff Mecsico, gyda dim ond ychydig o draethau hysbys lle maent yn dodwy eu hwyau yn yr ardal honno. Ni allant oroesi yn nyfroedd y DU ac Iwerddon. Mae ymdrechion cadwraeth yn ceisio ailadeiladu niferoedd y boblogaeth.



