Nid oes llawer a wyddys am niferoedd y siarcod angel yn y dyfroedd o amgylch arfordir Cymru ond bob blwyddyn cawn sawl adroddiad amdanynt, ac rydym wedi bod yn gweithio gyda phrosiect y siarc angel i helpu i ddeall y siarc hwn yn well. Gall siarcod angel dyfu i fod dros 2m o hyd. Maent yn siarc cudd sy’n debyg o ran ymddangosiad i belydrau. Maent yn gorwedd ar wely’r môr yn aros i’w hysglyfaeth nofio heibio cyn iddo ymosod.


