Morloi-gi
Gall y morloi-gi dyfu i fod tua 2.5m o hyd, ac mae’n edrych yn debycach i’r hyn rydym yn ei ddychmygu pan feddyliwn am siarcod. Maent yn bwydo’n bennaf ar bysgod esgyrnog. Rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau am forloi-gwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.




